Chwedlau ar y Cledrau gan Elliw Newsham blwyddyn 6
Mi gychwynnon ni wrth fynd i ddal y tren am 9.08 yn Llanrwst
OND roedd y bws yn hwyr ac roedd y gyrrwr yn drefio yn arafach nac arfer a mi fyddan ni wedi colli'r tren. Felly penderfynon ni droi lawr am Tal Y Cafn oherwydd yn lwcus iawn roedd na orsaf drennau yno. Rhedodd Anti Lynn at swyddfa'r gorsaf gan roi sioc i'r gweithiwr. (Doedd o heb weld cymaint o fobl eisiau dal tren yno ers blynyddoedd!!!) Chwifiodd y gweithiwr ei faner a dalion ni'r tren ac i ffwrdd a ni i Landudno. Mi stopion ni ryw 5 gwaith ar y ffordd i Landudno. Gwelson ni'r Afon Gonwy ar castell yn y cefndir(am brydferthwch!) Ar ol cyrraedd am 9.45 mi gerddon ni i'r llyfrgell yn ganol y dref gyda'r prifardd Myrddin Ap Dafydd yn ein tywys. Pan gyrhaeddon ni'r llyfrgell cafon ni gyfle i ddefnyddio peiriant arbennig yn dangos hen bapurau newydd. Dysgon ni am hanes yr hyn ddigwyddodd yn Nolgarrog tua 85 mlynedd yn ol sef trychineb ofnadwy pan dorrodd argae a llifogi trigolion y pentref. Collodd 16 o bobl a phlant eu bywydau. Cawsom glywed rai o chwedlau lleol. Un ohonynt oedd Yr Afanc sef stori am fwystfil dwr oedd yn bwyta plant yr ardal wrth ymyl Betws y Coed. Roedd yn byw mewn llyn o'r enw Llyn yr Afanc. Roeddem wedi clywed y chwedl hwn yn yr ysgol ond roedd y fersiwn yno ychydig yn wahanol. Chwedl arall cawsom oedd Chwedl Castell Gwydir. Roedd yn son am ddyn o'r enw John Wynne. Ymddangosodd hen wraig a dweud wrtho y byddai'n marw petai carw yn dod ar ei dir. Adeiladodd wal anferth i gadw'r carw allan ond disgynnodd coeden a torri'r wal ac yn wir daeth carw a bu farw John druan! Ar ol clywed yr holl chwedlau mi gawsom ginio blasus yn y llyfrgell Ar ol hynny gwnaethom ddarn o farddoniaeth am fwystfil y llyn gyda Myrddin ap Dafydd. Yna roedd hi n amser mynd yn nol ar y tren i Lanrwst . Ar y ffordd yn ol cawsom docyn tren wedi ei wneud yn arbennig ar ein cyfer. Cawsom gyfle i weld y gologfeydd anhygoel unwaith eto. Daeth Myrddin ap Dafydd i'r ysgol am 3 o'r gloch i lyfnodi llyfrau. Roedd Bys a Bawd sef siop lyfrau Cymraeg yn Llanrwst wedi dod i'r ysgol. Toc dyna hi'n taro 3.15 ac adre a ni. Roedd wedi bod yn ddiwrnod gwych a llawn cyffro. Roeddwn wedi mwynhau cael cyfle i weld Myddin ap Dafydd a clywed rhai o chwedlau lleol ein hardal.