Anda di halaman 1dari 2

Manylion yr Interniaeth

Cyflogwr Prifysgol Bangor – Gardd Fotaneg Treborth

Teitl y swydd Intern Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau 16/04/2019

Cyflog £8.50 yr awr

30 awr yr wythnos am hyd at 4 wythnos, Mehefin / Gorffennaf 2019.


Cyfnod
union ddyddiad trwy gytundeb o'r ddwy ochr. Patrwm gweithio
hyblyg - efallai bydd yr interniaid yn dymuno gweithio yn y bore neu'r
prynhawn. Mae dydd Mercher a dydd Gwener yn brysur yn yr ardd,
felly'r diwrnodau tawelaf yw dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau.

Swydd- Mae Gardd Fotaneg Treborth (GBT) (http://treborth.bangor.ac.uk) yn


cynnwys 18 hectar o goetir cadwraeth, gerddi wedi'u trin a thai gwydr gyda
ddisgrifiad chasgliadau ecsotig ar lannau deheuol y Fenai. Mae ganddi 2,500 o
rywogaethau planhigion brodorol a rhai wedi'u cyflwyno o dramor, a bywyd
gwyllt toreithiog yn cynnwys gwiwerod coch.
Mae strategaeth gyfathrebu'r ardd yn defnyddio cyfryngau printiedig,
darlledu a chymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a sicrhau cefnogaeth i
gynlluniau, datblygiadau a gweithgareddau'r ardd. Caiff yr Intern Cyfryngau
Cymdeithasol ei gynorthwyo gan staff a gwirfoddolwyr yr ardd i gasglu a
chyfrannu newyddion a deunydd hyrwyddo i wefan yr ardd, i flog rheolaidd
a chylchlythyr chwarterol, ac i lwyfannau'n cynnwys Facebook, Twitter ac
Instagram. Bydd yr intern yn helpu i greu polisi ffurfiol yr ardd ar
ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a pharatoi calendr digwyddiadau
cyfryngau. Bydd ef / hi hefyd yn cysylltu ag uned gyfieithu'r brifysgol os bydd
angen cymorth i ddarparu deunydd Cymraeg.

Yn ystod y lleoliad, bydd croeso i'r myfyriwr hefyd gymryd rhan yng
ngweithgareddau dydd i ddydd yr ardd ochr yn ochr a'r tîm staff a
gwirfoddolwyr, e.e. gofalu am blanhigion, dyfrhau, lluosogi planhigion,
tocio, chwynnu, bwydo, rheoli plâu, defnyddio peiriannau (yn unol â
gofynion iechyd a diogelwch), rheoli digwyddiadau, cydlynu gwirfoddolwyr,
rheoli cyllidebau, codi arian etc.
Bydd yr intern yn gweithio yn swyddfa Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth ac
yn adeilad y labordy dysgu yng Ngardd Fotaneg y Brifysgol. Bydd gan y
myfyriwr fynediad llawn i'r llyfrgell, wifi, cyfleusterau'r gegin ac ymolchi yn
lleoliad hyfryd yr ardd ar lannau'r Fenai. Mae gan yr ardd faes parcio
pwrpasol ac mae ar lwybr bysiau rhwng prif gampws y Brifysgol a'r Ysgol
Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy. Bydd staff yr ardd yn rhoi sesiwn
gynefino iechyd a diogelwch i'r Intern Haf.

Gofynion 1. Parodrwydd i ddod i adnabod (gyda hyfforddiant) y casgliadau o


personol blanhigion dan do ac awyr agored yn Nhreborth, a gwneud gwaith ymarferol
i ofalu am blanhigion
2. Cyfarwydd â chyfrifiadureg, cyfryngau cymdeithasol a chadw/adalw data
3. Sgiliau darllen, ysgrifennu a chyflwyno da yn Saesneg
4. Gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac ar eich pen eich hun fel bo'r angen.
5. Yn ddibynadwy ac wedi ymrwymo i weithio'r oriau sy'n ofynnol gan yr
interniaeth, o fewn y drefn hyblyg yn yr ardd.
6. Diddordeb yn y byd naturiol a phlanhigion/garddwriaeth
7. Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol yn yr interniaeth hon.

Sut i wneud Cewch ymgeisio am hyd at 3 interniaeth.


cais Gofynnir i chi e-bostio CV a llythyr cyflwyno, yn nodi pa interniaethau y mae
gennych ddiddordeb ynddynt (yn nhrefn blaenoriaeth) at:
targetconnect@bangor.ac.uk

Cynhelir y cyfweliadau: I'W GADARNHAU

Rhoddir gwybod i ymgeiswyr a roddir ar restr fer i gael cyfweliad a bydd


cyngor ar gael i unrhyw ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad, unrhyw
addasiadau rhesymol ar gyfer y cyfweliad, neu unrhyw addasiadau rhesymol
y bydd angen eu gwneud i'ch galluogi i gwblhau eich interniaeth.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogaeth


Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd LL57 2UW
ffôn:+44 (0) 1248 388521 | e-bost: targetconnect@bangor.ac.uk

Anda mungkin juga menyukai