Mae'r interniaethau'n rhai llawn-amser a'u bwriad yw rhoi profiad gwaith sylweddol i
fyfyrwyr mewn amgylchedd rhyngwladol, a ddylai gryfhau'n sylweddol eu siawns o gael
swydd ar ôl graddio. Bydd cyfranogwyr yn derbyn grant hyfforddi o tua £370 y mis, ac
efallai y bydd angen iddynt fynd ar hyd at dri ymweliad hyfforddi tramor.
Dim ond myfyrwyr israddedig sy'n gymwys i wneud cais am yr interniaethau hyn, ac er y
bydd rhai myfyrwyr yn anghymwys oherwydd achrediad proffesiynol neu faterion fisa,
dylai'r rhan fwyaf fod yn gymwys.
Gellir trafod y dyddiadau cychwyn, ond fel rheol, cânt eu cynnal o 1 Medi 2019 hyd at 30
Mehefin 2020 mewn egwyddor. Cynhelir yr interniaeth Astudiaeth Ryngwladol Dramor o 1
Mehefin 2019 hyd at 30 Mehefin 2020
I wneud cais am y cyfleoedd hyn, anfonwch eich CV a'ch llythyr cais at Dawn-Marie Owen:
d.m.owen@bangor.ac.uk erbyn 15 Mai 2019. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi yn y
llythyr cais yr Interniaeth rydych chi'n gwneud cais amdani, eich enw llawn, eich cyfeiriad
e-bost prifysgol, Ysgol/Cwrs Academaidd a blwyddyn astudiaeth.
Y SWYDD
PRIF DDIBEN
Y PRIF GYFRIFOLDEBAU
• Rhoi cefnogaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr a staff sy’n dod i mewn a mynd allan, yn
ogystal â phartneriaid sefydliadol, yn cynnwys ymholiadau wyneb yn wyneb, ar y ffôn
ac electronig.
Hanfodol Dymunol
Y SWYDD
PRIF DDIBEN
Y PRIF GYFRIFOLDEBAU
Trefnu a darparu teithiau campws i ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol, rhai sydd wedi
cael cynigion, ac asiantau recriwtio. Bydd yn cynnwys cysylltu ag ysgolion
academaidd perthnasol, timau marchnata a neuaddau i drefnu'r ymweliad a
myfyrwyr / asiantau recriwtio cysylltiedig ar y teithiau.
Ateb ymholiadau gan fyfyrwyr ac asiantau addysg drwy e-bost, ffôn a chyfryngau
cymdeithasol, a chysylltu â'r tîm Derbyniadau Rhyngwladol a'r Tîm Marchnata
Rhyngwladol yn ôl yr angen.
Hanfodol Dymunol
Gwybodaeth a Sgiliau TG da
Chymwysterau
Profiad Profiad o weithio gyda
phobl mewn rôl
gwasanaeth cwsmeriaid.
Profiad o reoli a
blaenoriaethu baich
gwaith sy’n gwrthdaro.
Profiad o gynnal
ymchwil ac ysgrifennu
adroddiadau.
Nodweddion Rhoi sylw i fanylion a chywirdeb.
personol Medrau trefniadol ardderchog.
Sgiliau cyfweld a sgiliau
cymdeithasol rhagorol.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Ymwybyddiaeth ddiwylliannol
Hyblyg a hawdd mynd atoch
Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd.
Iaith Cymraeg
Bod yn gyfarwydd ag
ieithoedd eraill
SWYDDFA FARCHNATA RYNGWLADOL
Y SWYDD
Swydd: Intern Marchnata Rhyngwladol
Graddfa: Grant Hyfforddi Myfyrwyr tua £370 y mis hyd at
gyfanswm o £4,440 am 12 mis
Yn adrodd i’r: Pennaeth Marchnata Rhyngwladol
Lleoliad: Prifysgol Bangor
PRIF DDIBEN
Bydd yr intern yn gweithio gyda'r Swyddfa Farchnata i roi cefnogaeth ar gyfer ymgyrchoedd
marchnata traddodiadol a digidol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n ymwneud â
chyhoeddiadau print, cyfathrebu â myfyrwyr, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol,
gwneud y gorau o'r wefan, ymchwil i gystadleuwyr, ac ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr
rhyngwladol eraill.
Y PRIF GYFRIFOLDEBAU
Chwarae rhan allweddol wrth ddylunio a gweithredu ymgyrchoedd sy'n ceisio cael rhai
sydd wedi derbyn cynigion rhyngwladol i gofrestru ym Mangor. Gall hyn olygu gweithio
o amgylch cynlluniau CRM presennol, ymgyrchoedd galwadau ffôn, a'r wefan.
Hanfodol Dymunol
Y SWYDD
PRIF DDIBEN
Yn ystod yr interniaeth, bydd yr intern wedi'i leoli yn swyddfa Prifysgol Bangor yn Beijing, Tsieina.
Bydd yr intern yn rhoi cefnogaeth weithredol ar gyfer marchnata a recriwtio i Brifysgol Bangor yn
y DU. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda gweithgareddau recriwtio, rhoi cefnogaeth i
sefydliadau partner a gwneud ymchwil i'r farchnad. Bydd gweithgarwch marchnata yn cynnwys
ymgyrchoedd marchnata traddodiadol a digidol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n
ymwneud â chyhoeddiadau print, cyfathrebu â myfyrwyr, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ac
ymgyrchoedd recriwtio eraill. Rhaid i ymgeiswyr fod yn rhugl mewn Tsieinëeg (ysgrifenedig a
llafar).
Y PRIF GYFRIFOLDEBAU
Rhoi cefnogaeth i staff Swyddfa Beijing a staff sy'n ymweld o Brifysgol Bangor yng nghyswllt
ymholiadau a wneir yn ystod digwyddiadau recriwtio rhyngwladol, mewn ymdrech i droi'r
ymholiadau hyn yn geisiadau a chofrestriadau. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â myfyrwyr
drwy e-bost, ffôn a chyfryngau cymdeithasol i roi gwybodaeth ychwanegol am Brifysgol
Bangor.
Mynd i ddigwyddiadau recriwtio gyda staff Swyddfa Beijing gan gynnwys ffeiriau addysg,
ymweliadau ag asiantau addysg a phrifysgolion partner i hyrwyddo Prifysgol Bangor.
Ateb ymholiadau gan fyfyrwyr ac asiantau addysg drwy e-bost, ffôn a chyfryngau
cymdeithasol, a chysylltu â'r tîm Recriwtio, Partneriaeth, Marchnata a Derbyniadau
Rhyngwladol ym Mangor yn ôl yr angen.
Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal ein sianelau marchnata digidol wedi'u bwriadu ar gyfer
myfyrwyr Tsieineaidd sy'n cynnwys Wechat a sianelau cyfryngau cymdeithasol eraill.
Cynorthwyo gyda dylunio a chynnal ymgyrchoedd sy'n ceisio cael rhai sydd wedi derbyn
cynigion rhyngwladol i gofrestru ym Mangor. Gall hyn olygu gweithio o amgylch cynlluniau
CRM presennol, ymgyrchoedd galwadau ffôn, a'r wefan.
Casglu tystebau myfyrwyr am eu profiad astudio ym Mangor, a'u prosesu ymhellach i'w
cyhoeddi ar wefannau / mewn print.
Hanfodol Dymunol
Gwybodaeth a Sgiliau TG da a gallu defnyddio MS
Chymwysterau Office
Dealltwriaeth sylfaenol o sianelau
Cyfryngau Cymdeithasol
THE POST
PRIF DDIBEN
Lleolir y swydd yn y Sefydliad Confucius, sydd yn Sefydliad sydd â phroffil rhyngwladol a’i bwrpas yw
cynorthwyo a hyrwyddo cyfnewidiadau diwylliannol rhwng China a’r Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio
gyda nifer o bartneriaethau yn China [e.e. China University of Political Science and Law, Pencadlys y Sefydliad
Confucius (HANBAN)] ac rydym yn rhedeg rhaglen gyfoethog o weithgareddau addysgiadol a diwylliannol
mewn cydweithrediad a staff proffesiynol o China.
Bydd yr intern yn cefnogi gweithredu strategaeth farchnata a chyfathrebu’r Sefydliad drwy ddefnyddio
cyfryngau traddodiadol a chyfryngau digidol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi hyrwyddo gweithgareddau’r
Sefydliad mewn cyhoeddiadau print, ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, cynnal cynnwys a gwybodaeth ar
lwyfannau digidol. Bydd yr intern yn cynorthwyo gyda’r cynllunio, trefnu a rhedeg rhaglen ddiwylliannol ac
ymchwil y Sefydliad a pharatoi adroddiadau ar y gweithgareddau ar gyfer ein partneriaid yn China.
Bydd yr intern yn cael cyfle i gymryd rhan yn ein rhaglen Ysgol Haf ac ymweld â China am bythefnos ym mis
Gorffennaf 2019.
Y PRIF GYFRIFOLDEBAU
Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal ein sianelau marchnata digidol ar gyfer ysgolion, colegau,
myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor a chymuned gogledd Cymru. Bydd hyn yn cynnwys gwefan y
Sefydliad Confucius, Facebook, Twitter, YouTube ac Instagram.
Chwarae rhan mewn dylunio ac argraffu ein cyhoeddiadau marchnata gan gynnwys Taflenni,
Cylchlythyrau, Llyfrynnau a Baneri. Mae’r cyhoeddiadau wedi eu hanelu at y gynulleidfa
genedlaethol a rhyngwladol.
Cynnal projectau ymchwil sy'n archwilio tueddiadau cyfredol mewn marchnata. Bydd hyn yn
cynnwys dadansoddi gwahanol sianelau marchnata a sianelau sy’n hyrwyddo’r iaith a
diwylliant Tsieineaidd, eu heffeithiolrwydd, ac archwilio i bosibiliadau yn y dyfodol i’r Sefydliad
Confucius.
Hanfodol Dymunol